Sign up and create a profile to see your matching skills
Please apply by: 31.07.2026
Shortlisting is anticipated to take place: w/c 03.08.2026
Interviews are anticipated to take place: w/c 17.08.2026
We are looking for a motivated Business Analyst to join our Portfolio Management Office (PMO) and support the delivery of key transformation and improvement initiatives across the Service.
Based at ServicHeadquarters in Llantrisant (with some flexible working), you will work closely with programme and project teams to understand business needs, analyse processes, and help design practical solutions that improve how we operate.
You’ll play a key role in gathering and documenting requirements, mapping current and future processes, and supporting informed decision-making through clear analysis and insight. Working with stakeholders across the Service, you’ll help ensure change initiatives are well-defined, aligned to priorities, and successfully delivered.
We’re looking for individuals with experience in business analysis within a change or transformation environment, ideally involving people, process, and technology change. A BA or project management qualification (or equivalent experience) would be beneficial.
You’ll be analytical, proactive, and confident engaging with a wide range of stakeholders, with a strong focus on delivering real, practical improvements.
• Contract: 2 years FTC
• Grade: 13
• Salary: £42,839 - £44,075
• Hours of Work: 37hrs per week
• Directorate: Transformation / Corporate Services
• Location: Headquarters, Llantrisant
----------------------------------
Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn 31.07.2026 am hanner dydd.
Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: w/c 03.08.2026
Disgwylir I’r cyfweliadau gael eu cynnal: w/c 17.08.2026
Rydym yn chwilio am Ddadansoddydd Busnes brwdfrydig i ymuno â'n Swyddfa Rheoli Portffolio (SRhP) a chynorthwyo gyda darparu mentrau trawsnewid a gwella allweddol ar draws y Gwasanaeth.
Wedi'ch lleoli ym Mhencadlys y Gwasanaeth yn Llantrisant (gyda rhywfaint o weithio hyblyg), byddwch yn gweithio'n agos gyda thimau rhaglenni a phrosiectau i ddeall anghenion busnes, dadansoddi prosesau, a helpu i ddylunio atebion ymarferol sy'n gwella sut rydym yn gweithredu.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gasglu a dogfennu gofynion, mapio prosesau cyfredol a phrosesau'r dyfodol, a chefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus trwy ddadansoddi a mewnwelediad clir. Gan weithio gyda rhanddeiliaid ar draws y Gwasanaeth, byddwch yn helpu i sicrhau bod mentrau newid wedi'u diffinio'n dda, wedi'u halinio â blaenoriaethau, ac yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
Rydym yn chwilio am unigolion â phrofiad mewn dadansoddi busnes o fewn amgylchedd newid neu drawsnewid, gan gynnwys pobl, prosesau, a newid technoleg yn ddelfrydol. Byddai cymhwyster BA neu reoli prosiectau (neu brofiad cyfatebol) yn fuddiol.
Byddwch yn ddadansoddol, yn rhagweithiol, ac yn hyderus wrth ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gyda ffocws cryf ar gyflawni gwelliannau gwirioneddol, ymarferol.